Helo! Croeso i wefan Cylch Meithrin Penparc.


Mae'r Cylch wedi ei sefydlu ers 1983. Dechreuwyd y Cylch i lawr ym mhentref Penparc yn Festri y Capel ac yna yn 1991 fe symudodd i fyny i dir yr ysgol. Mae'r Cylch yn cael ei gynnal mewn caban ar iard Ysgol Gymunedol Penparc. Rydym yn croesawu plant 2 i 4 oed o fewn y Cylch. Dechreuwyd y Cylch yn fach iawn, ond erbyn heddiw mae'r Cylch yn llawn ac mynd o nerth i nerth pob blwyddyn.


Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r ysgol, yn enwedig y dosbarth derbyn, sydd yn gwneud pethau yn haws pan mae'r amser yn dod i'r plant fynychu'r ysgol; mae'n helpu gwneud y trosglwyddiad yno yn un hwylus. Yn Hydref 2023, enillwyd y Cylch yr wobr 'Cylch i Bawb' gan Mudiad Meithrin. Mae'r Cylch yn cael ei arwain gan bwyllgor o wirfoddolwyr. Maent yn gweithio'n galed i godi arian a gwneud yn siwr bod y Cylch yn rhedeg yn ddiffuant.

Mae Cylch Meithrin Penparc yn llawn hwyl a sbri.

Gweithgareddau:

Rydym yn darparu y plant gydag amryw o weithgareddau yn y Cylch. Mae gan yr Cylch ardal allanol, sydd yn darparu amryw o weithgareddau:
- wal ddringo
- tŷ bach twt
- gegin fwd
- ardal ddŵr a thywod
- ardal plannu
- sied ddarllen

Rydym hefyd yn cael defnyddio iard yr ysgol, er mwyn i'r plant gael sesiynau beics / beics balans.


O fewn y Cylch, mae plant yn cael y rhyddid i dewis pa weithgareddau hoffen nhw wneud. Rydym yn mynd allan a'r plant am dro, i'r gymuned leol, rydyn ni ambell waith yn dal y bws i fynd lawr i'r dre lleol ac ymweld a'r llyfrgell ac rydyn ni hefyd yn mynd ar ambell i drip.

Oriau / Ffioed:

Sesiynau prynhawn:

  • 1yp tan 3yp

  • £10.50 y sesiwn

Goal cofleidiol:

  • 12yp-3yp

  • £20

  • Bydd angen darparu pecyn cinio

Sesiynau bore:

  • 8:30yb - 12yp

  • £47.50 am 5 bore

  • Er mwyn sicrhau bod lle yn eu sesiynau boreol, bydd angen i chi dalu am wythons gyfan

Mae’r Cylch ar agor yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'r ffioedd yn cael eu gwerthuso yn flynyddol.

Mae rhieni a gwarcheidwaid yn gallu gwneud cais am ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar am hyd at 30 awr yr wythnos (o’r tymor ar ol i’ch plentyn droi’n 3 oed) - cofrestrwch yma.

Gallwch hefyd dalu drwy eich cyfrif Gofal Plant sy'n Rhydd o Dreth.

Lleoliad:

Iard Ysgol Gynradd Penparc
Penparc
Aberteifi
Ceredigion
SA43 2JE

Gan ddilyn rheoliadau AGC, mae gofyn i gymhareb staff i blant gael ei ddilyn sef 1:8 dros dair oed, 1:4 i blant dwy oed. Mae’r Cylch yn derbyn plant newydd o’r diwrnod y byddant yn troi’n 2 oed, os oes lle.

  • Miss Mary

    Rwyf wedi bod yn gweithio yn y Cylch bron i fod 11 mlynedd. Fe dechreuais fel cymorthwy-ydd, yna ymlaen i fod yn Dirprwy Arweinydd, ac yn awr yn Arweinydd ers 2 flynedd bellach. Rwyf wedi gweithio gyda plant ers bron i 20 mlynedd mewn gwahanol sefydliad. Fe wnes i cymwyso gyda NVQ lefel 5 mewn arweinyddiaeth, gofal, dysgu a datblygiad plant yn 2017.

    Fy hoff rhan am gweithio mewn Cylch ydy, gweld y plant bach yn tyfu a datblygu yn ystod y 2 flynedd mae nhw gyda ni a hefyd mae pob dydd yn gwahanol yn i plith.

  • Miss Jen

    Rwyf wedi bod yn rhan o’r Cylch ers bron i 10 mlynedd. Fe wnes i ddechrau fel cymorthwy-ydd un i un, ac yn parhau i fod, ac hefyd rwyf yn cymorthwy-ydd pan nad oes plant un i un. Yn ol yn 2015, fe wnes i cwrs Cam wrth Cam, gyda Mudiad Meitrhin ac yna cymwyso yn 2016 gyda Lefel 3 mewn gofal, dysgu a datblygiad plant. Rwyf hefyd wedi gwneud amryw o cyrsiau i ymwneud a anghenion ychwanegol mewn plant. 

    Fy hoff peth am gweithio yn y Cylch ydy, gweld y plant yn datblygu, yn enwedig y rhai hynny rwyf yn gweithio gyda yn unigol. 

  • Miss Emma

    Fe ddechreuais yn y Cylch fel myfyrwraig yn 2019, yn astudio NVQ lefel 3 yn gofal, dysgu a datblygiad plant. Yn Mehefin 2022 fe wnes i cymwyso, ac yna penderfynnu mynd am swydd cymorthwy-ydd roedd yn hysbysebu gyda’r Cylch. Yn Medi 2022 fe wnes i ddechrau sywdd llawn amser fel cymorthwy-ydd, ac yn mwynhau pob eiliad ohonno. Rwyf hefyd yn mwynhau i fod yn cymorthwy-ydd un i un, pan mae angen.

    Rwyf yn hoff iawn o fy swydd, mae yn swydd sydd yn gwobrwyol iawn. Rwyn mwynhau chwarae gyda’r plant a fod yn rhan o’i taith dysgu.

Cysylltwch â ni.

ebost: meithrinpenparc@gmail.com

Yn ddiweddar mae’r Cylch wedi gael ardal Cegin fwd newydd. Mae’r plant yn mwynhau’n fawr allan ynddo, beth bynnag ydy’r tywydd. Mae yn ardal lle mae’r plant yn dysgu dipyn – rhifedd, llythrynedd, lles ac hefyd perthyn. Mae’r ardal yn gael i defnyddio pob dydd. Er mwyn sichrau yr ardal fe wnaethon gael grant gyda Cyngor Cymuned Ferwig, diolch yn fawr iddyn nhw am i rhodd.

“Allen i ddim bod wedi gofyn am dechreuad well I fy mhlentyn. Roedd fy mhlentyn yn fwy na barod i ddechrau yn yr ysgol, diolch i’r tim o staff frwfrydig a gweithgar. Fe wnaeth dysgu a datblygu cymaint yn ystod ei amser yma.”

“Mae fy mhlentyn yn mwynhau pob eiliad yn y Cylch. Mae’r staff yn cyfeillgar iawn ac yn adnabod y plant yn dda iawn o rhan eu anghenion a diddordebau.”